Cysylltu |
Contact
Ysgol Bryn Tabor
Heol Maelor
Coedpoeth
Wrecsam
LL11 3NB
Cyngor Lles
"Rydym fel Cyngor Lles yn frwdfrydig iawn, ac yn gweithio'n galed i gefnogi holl ddisgyblion yr ysgol i ddatblygu’n
unigolion iach a hyderus sy'n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas. Mae amrywiaeth eang o
weithgareddau yn cael eu cynnal yn yr ysgol, gan ganolbwyntio ar gefnogi lles ac annog meddylfryd bositif gan bawb. Mae’r
Cyngor yn cyfarfod yn gyson, ac yn griw gweithgar iawn. Rydym fel aelodau o’r Cyngor Lles yn annog disgyblion i helpu, a
bod yn garedig wrth eraill. Rydym yn gwisgo bathodyn neu het sy’n atgoffa pawb ein bod yn hapus i sgwrsio ac yn barod i
helpu.”
Mae'r Cyngor Lles wedi cyflwyno gwybodaeth i'r ysgol gyfan am Hawliau Plant. Yn ystod tymor yr haf, byddwn yn
canolbwyntio ar yr hawl i chwarae ac ymlacio. Rydym wedi trafod hwn yn ein cyfarfod cyngor lles, ac wedi dosbarthu
holiadur i'r disgyblion er mwyn casglu eu barn am Amser aur.