ysgol bryn tabor header

Cysylltu |

Contact

Ysgol Bryn Tabor

Heol Maelor

Coedpoeth

Wrecsam

LL11 3NB

Ysgol Bryn Tabor © 2026 Website designed and maintained by H G Web Designs

Dreigiau Doeth

Ni yw aelodau’r Siarter Iaith sydd wedi cael ein hethol gan ein cyd-ddisgyblion i roi ffocws arbennig a statws i’r Gymraeg yn Ysgol Bryn Tabor. Mae’r Gymraeg yn bwysig iawn i ni yma yn yr ysgol, a dyna pam rydym yn gweithio’n galed i feddwl am ffyrdd newydd a chyffrous o annog ein cyd-ddisgyblion i weithio, sgwrsio, chwarae a mwynhau drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym yma i helpu plant i ddysgu’r iaith a dod yn fwy hyderus wrth siarad Cymraeg. Mae’n bwysig dangos i bawb yn Ysgol Bryn Tabor pa mor werthfawr yw’r Gymraeg i ni. Mae’n iaith hynafol ac mae’n gyfrifoldeb arnom i’w diogelu a’i hyrwyddo. Rydym yn hynod falch ein bod, eleni, wedi ennill Gwobr Aur y Siarter Iaith. Mae’r wobr hon yn dyst i waith caled, ymrwymiad a brwdfrydedd ein disgyblion a’n staff i gyd wrth hyrwyddo’r Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd yr ysgol. Er ein bod wedi cyflawni’r wobr aur, nid diwedd y daith yw hyn. Byddwn yn parhau i ddatblygu a hyrwyddo’r Gymraeg fel rhan annatod o fywyd bob dydd yn Ysgol Bryn Tabor, gan sicrhau bod y Gymraeg yn parhau i ffynnu ac i gael ei defnyddio gyda balchder gan ein holl ddisgyblion a staff.

Cysylltu | Contact

Ysgol Bryn Tabor

Heol Maelor

Coedpoeth

Wrecsam

LL11 3NB

Ysgol Bryn Tabor © 2026

Website designed and maintained by H G Web Designs