Croeso i dudalen Cymdeithas Rhieni ac Athrawon (CRhA) Ysgol Bryn Tabor.Bwriad y gymdeithas yw codi arian drwy gynnal gweithgareddau amrywiol drwy gydol y flwyddyn. Mae'r arian a gesglir yn helpu'r ysgol i brynu adnoddau ac offer defnyddiol, ac yn cyfrannu at gostau tripiau allgyrsiol i'r disgyblion.CyfarfodyddMae'r gymdeithas yn cyfarfod yn rheolaidd yn ystod y tymor i:•Drafod syniadau newydd•Drefnu gweithgareddau a digwyddiadau•Rhannu gwaith a chyfrifoldebauBydd dyddiadau'r cyfarfodydd yn cael eu rhannu ar ap yr ysgol.YmunoMae croeso i unrhyw riant neu warchodwr ymuno â'r cyfarfodydd hyn, ac rydym yn gwerthfawrogi unrhyw gymorth y gallwch ei gynnig - boed yn syniad, yn amser neu'n gymorth ymarferol ar ddiwrnod digwyddiad.Digwyddiadau DiweddarFfair Haf – Cafwyd Ffair Haf lwyddiannus iawn eleni!Hoffem ddiolch yn fawr i Gymdeithas y Rhieni am eu holl waith caled yn trefnu’r Ffair. Codwyd swm sylweddol o arian ar gyfer yr ysgol, ac rydym yn gwerthfawrogi eu hamser, eu hymroddiad a’u cefnogaeth yn fawr iawn.Diolch i bawb a gyfrannodd ac a ddaeth i gefnogi’r digwyddiad – roedd yn wych gweld cymaint o deuluoedd a’r gymuned yn dod at ei gilydd.
Cymdeithas
Rhieni ac
Athrawon Ysgol
Bryn Tabor